young view - golwg ifanc

[English version]

Adroddiad gan bobl ifanc ag amhariad gweledol rhwng 17 a 25 oed yng Nghymru

gyda chefnogaeth Cyngor Cymru i'r Deillion a Sefydliad Sobell

Mae'r adroddiad yma ar gael mewn braille, ar dâp sain a disg gyfrifiadur oddi wrth Gyngor Cymru i'r Deillion.

Mae e hefyd ar gael ar wefan Golwg Ifanc (www.isite-now.org.uk).

Cynnwys

Neges oddi wrth y grwˆp

Mae'r adroddiad yma'n deillio o benwythnos preswyl yng nghanolbarth Cymru a drefnwyd ar ein cyfer gan CCD gyda 16 o bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed o bob rhan o Gymru yn bresennol.

Fe gawson  ni raglen lawn o anerchiadau, gweithdai a thrafodaethau ac o ganlyniad rydyn ni wedi rhoi at ei gilydd lond cwch o bwyntiau sy'n bwysig i ni. Mae'r adroddiad yma'n cynnwys ein syniadau a'n barn ni ein hunain ynghylch y cymorth a'r gwasanaethau yr ydyn ni'n eu derbyn a'r hyn yr hoffen ni i gymdeithas ei wneud ar ein cyfer yn y dyfodol. Ein gobaith yw na fydd y prosiect yn dod i ben yn y fan yma ac mae  ni ddigonedd o syniadau am sut yr hoffen ni symud ymlaen. Yn bendant dylai fod mwy o ddigwyddiadau fel hwn.

Hoffen ni ddiolch i'r siaradwyr i gyd a'r rhai a gynhaliodd weithdai yn ystod y penwythnos. Roedden nhw i gyd yn ddiddorol ac yn ddifyr.

Hoffen ni ddiolch hefyd i Sefydliad Sobell am y grant a wnaeth y prosiect yn bosibl.

Ein diolchiadau hefyd i CCD am drefnu'r prosiect a'n galluogi i gynhyrchu'r adroddiad hwn a'i gyflwyno i'r Cynulliad.

Bywgraffluniau o'r Cyfranogwyr

Kelly Pritchard, 22, o Dreffynnon yn Sir Fflint

Mae Kelly ar y hyn o bryd yn astudio ar gyfer GNVQ uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy yn y Gogledd. Ei huchelgais yw dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Athrawes gan arbenigo mewn gweithio gyda phobl ag amhariad gweledol. Mae Kelly wedi bod i America ar "Daith ei Bywyd" gan deithio o Los Angeles i Alaska. Ei diddordebau o ran polisi yw Iechyd, Addysg a Chludiant.

Chris Eyre, 24, o Aberogwr, Bro Morgannwg

Mae Chris yn gweithio i'r Gynghrair Amddiffyn Cwˆn Genedlaethol yn eu Canolfan Achub ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae e wedi gweithio yno am naw mlynedd - yn hwy na'r rhan fwyaf o'r gweithwyr eraill. Mae gan Chris frwdfrydedd angerddol dros chwaraeon ac mae'n mwynhau rygbi, sgwba-blymio a nofio. Llynedd fe neidiodd gyda pharasiwt i godi arian ar gyfer Cwˆn Tywys i'r Deillion.

Ruth Bending, 22, o Gaerdydd

Mae Ruth wedi gwneud ei Safon 'A' mewn Bioleg Dynol ac Iaith Saesneg ac mae ganddi le i astudio ar gyfer gradd mewn Seicoleg gyda'r Brifysgol Agored gan ddechrau'r flwyddyn nesaf. Mae hi wedi gwirfoddoli ar gyfer Prosiect Ymgynghorol Anghenion Arbennig yng Nghymru. Yn ei hamser hamdden, mae Ruth yn mwynhau mynd i wylio gemau Hoci Rhew a chefnogi'r Cardiff Devils. Mae ganddi gi tywys o'r enw Robyn. Diddordebau Ruth o ran polisi yw Cludiant, Addysg a Chyflogaeth.

Gethyn Owen, 22, o Ynys Môn

Mae Gethyn ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer NVQ mewn Technoleg Gwybodaeth yn y Coleg Cenedlaethol Brenhinol i'r Deillion yn Henffordd. Mae e'n mwynhau pêl-droed, teithio a chymdeithasu. Priff ddiddordebau Gethyn o ran polisi yw Cludiant a Chyflogaeth.

Neville Bonfield, 19, o Bont-y-pwˆl, Torfaen

Mae Neville yn gyfranogwr selog yn y campau, yn arbennig athletau. Mae e wedi ennill 18 medal am y neidiau uchel, hir a thriphlyg, gan gynnwys 12 aur a thlws arbennig am yr athletwr maes amryddawn gorau. Mae e hefyd wedi ymhel â chriced, pêl-fasged, pêl-droed a beistonna ac yn fwy diweddar, twrnameintiau pwˆl. Yn 1994 fe ennillodd Wobr Plentyn yn Cyflawni. Uchelgais Neville yw dod yn Swyddog Datblygu Chwaraeon gan weithio gyda phobl sydd ag amhariad gweledol.

Bill Smith, 18, o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf

Mae gan Bill ddiddordeb mewn chwaraeon a cherddoriaeth. Ei uchelgais yw dod yn gerddor a gwneud recordiau. Mae wedi astudio yng Ngholeg Henffordd am flwyddyn. Prif ddiddordeb Bill o ran polisi yw Hawl i Fudd-daliadau ac mae ganddo farn gref am addysg arbennig hefyd.

Tehani Edwards, 18, o Bort Talbot, Castell-nedd Port Talbot

Mae Tehani'n gweithio tuag at ddiploma mewn Therapïau Cyfannol yn Ngholeg Afan ym Mhort Talbot. Wedi cwblhau'r cwrs byddai hi'n hoffi cynnal ei busnes ei hun yn arbenigo mewn tharapïon cyfannol. Mae Tehani'n mwynhau mynychu'r eglwys, canu a nofio. Cyn symud i Gymru, roedd Tehani'n byw yn Ne Affrica.

Neil Prior, 22, o Abertawe

Mae Neil yn gweithio fel Ymchwiliwr Chwaraeon i BBC Cymru. Mae ganddo radd mewn hanes o Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn ei amser hamdden, mae Neil yn mwynhau chwarae criced dros ei dîm, y Dragons. Mae e hefyd yn mwynhau, pêl-droed, rygbi, beicio a theithio ac mae ganddo gi tywys pedair blwydd oed o'r enw Linton. Diddordebau Neil o ran polisi yw Cyflogaeth a Darparu Cyfleoedd Chwaraeon a Hamdden i bobl A.G.

Ffion Miles, 25, o Westshore yn Llandudno, Conwy

Mae gan Ffion radd yn y Gyfraith a gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Mae hi wedi gweithio yn y gorffennol fel Cynorthwy-ydd Personol ac Ymchwilydd ar gyfer Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru. Mae ei diddordebau'n cynnwys gwylio rygbi a phêl-droed, canu mewn côr a theithio. Diddordebau Ffion o ran polisi yw Cyflogaeth, Addysg ac Iechyd.

Alistair Davies, 19, o Borthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr

Prif ddiddordebau Alistair yw cerddoriaeth a beicio. Mae e hefyd yn mwynhau mynd i'r traeth ger ei gartref a chymdeithasu gyda'i ffrindiau. Fe astudiodd yn Ysgol Gyfun Porthcawl. Priff ddiddordeb Alistair o ran polisi yw Cyflogaeth.

Gerome Jackson, 20, o Ferthyr Tudful

Mae Gerome yn aelod gweithgar o fewn ei gymuned leol. Mae e ar dîm rheoli Canolfan Gymunedol Cefn Coed ac mae'n aelod o Bwyllgor Clwb Rygbi Cefn Coed. Mae e'n aelod o'r Blaid Lafur yng Nghymru ac mae'n ystyried bod yn ymgeisydd ar gyfer y Cyngor Sir. Fe astudiodd Gerome yn Ysgol Greenfields ym Merthyr Tudful. Mae'n hoff o wrando ar gerddoriaeth a mynd i weld sioeau cerdd.

John Marshall, 20, o Goed-duon, Gwent

Mae John ar hyn o bryd yn y Coleg Cenedlaethol Brenhinol i'r Deillion yn astudio ar gyfer NVQ mewn Chwaraeon ac Adloniant. Yn ei amser hamdden mae e'n mwynhau gwylio a chymryd rhan mewn chwaraeon, yn arbennig rygbi a chicbaffio.

Richard Herold, 21, o Bontypridd, Rhondda Cynon Taf

Mae Richard yn astudio ar gyfer diploma mewn Sgiliau Swyddfa Modern yng Ngholeg Pontypridd. Mae e'n hoff o wrando ar y radio ac mae'n mwynhau holi pobl a chreu ei raglenni ei hun ar dâp. Mae ei hobïau eraill yn cynnwys nofio, mynychu cyngherddau, beistonna a physgota. Diddordeb Richard o ran polisi yw Addysg.

Neil Jones, 23, o Lanidloes, Powys

Mae Neil yn Reolwr Tîm Canolfan Alw gyda'r Reality Group yn Nhrenewydd. Mae ganddo radd yn y Gyfraith o Brifysgol Pontypridd. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys cyfrifiaduron, gwylio ffilmiau, darllen, chwarae gwyddbwyll, rygbi a chwaraeon eraill. Prif ddiddordeb Neil o ran polisi yw Hawliau Pobl ag Anableddau.

Keryn Seal, 18, o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae Keryn ar hyn o bryd yn y coleg yn Exeter yn astudio ar gyfer AVCE mewn Hamdden ac Adloniant. Ei uchelgais yw dod yn Swyddog Datblygu Chwaraeon ar gyfer pobl ag amhariadau gweledol. Mae diddordebau Keryn yn cynnwys pêl-droed, cerddoriaeth a ffilmiau. Mae e'n chwarae dros dîm criced y Dragons ac roedd yn aelod o'r tîm a enillodd Gystadleuaeth Campau i'r Deillion yn Lourdes fis Medi diwethaf.

Chris Randel, 17, o'r Trallwng, Powys

Prif ddiddordeb Chris yw ceffylau ac mae e newydd gwblhau cwrs mewn Astudiaethau Ceffylau yng Ngholeg Technoleg a Chelf Sir Gaerfyrddin, Campws Pibwrlwyd. Ei uchelgais yw cystadlu ar lefel uchel fel Marchog Dressage a'i nod yw cael prawf gyda'r tîm Paralympaidd i gystadlu yng Ngroeg yn 2004. Mae diddordebau Chris o ran polisi'n cynnwys Anabledd a Chludiant.

Cyflwyniad

Mae'n bleser gan Ymddiriedolwyr a staff CCD gefnogi'r fenter hon. Roedden ni wedi bod yn ymwybodol ers tro ei bod yn anodd cyrraedd pobl a.g. ifanc ac i gael eu barn ar faterion cyfoes felly roedden ni'n teimlo bod rhaid gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae ein cymdeithas wedi bod yn cydnabod fwy a mwy y dylid ymgynghori â phobl ynghylch penderfyniadau gwleidyddol, cymdeithasol ac ariannol sy'n debygol o effeithio ar eu bywydau. Mae hyn yn wir gyda phobl ifanc yn fwy na neb.

O ran pobl ifanc ag amhariadau gweledol, mae yna ddwy elfen sy'n gwneud hyn yn anodd neilltuol. Yn gyntaf, mae dibyndod mawr cymdeithas ar ddeunydd argraffedig yn aml yn eithrio pobl ag anawsterau gweledol onibai ei fod yn cael ei gynhyrchu ar fformatau hygyrch. Mae cymdeithas yn araf iawn i sylweddoli hyn a gweithredu arno er gwaethaf deddfwriaeth ddiweddar. Yn ail, oherwydd proffil oedran amhariad gweledol, mae yna fwy o bobl hyˆn fel arfer mewn sefydliadau ac nid ydynt bob amser yn deall buddiannau pobl iau nac yn eu cynrychioli'n gywir.

Croesawn yn fawr y pwyslais y mae'r Cynulliad yn ei roi ar gyfranogaeth ieuenctid a gwasanaethau i ieuenctid ac rydym am weld y camau cywir yn cael eu cymryd i hwyluso'r broses o integreiddio pobl ifanc ag amhariadau gweledol. Gall y prosiect unigryw yma wneud cyfraniad sylweddol a phenodol tuag at nodau cyffredinol dogfen y Cynulliad a elwir 'Ymestyn Hawliau: cefnogi pobl ifanc yng Nghymru' a Phennod 7 yn neilltuol, sef "Sicrhau cyfle cyfartal, mynediad a chynhwysiad ".

Fe wnaeth y penwythnos preswyl gadarnhau ein barn bod ar y bobl ifanc yma angen eu platfform eu hunain. Gobeithiwn y bydd y prosiect yma'n fan cychwyn iddyn nhw gael eu cynnwys ac i gyfranogi i'r un graddau â'u cyfoeswyr sydd heb amhariad gweledol; ac fe fyddwn ni'n parhau i gefnogi'r datblygiadau a'r ehangu y mae'r grwˆp yma'n eu rhagweld y gorau fedrwn.

Vanessa Webb, (Cyfarwyddwr CCD)

Cychwyn y Prosiect

Roedd ein cais i Sefydliad Sobell yn cynnwys amlinelliad o sut yr oedden ni'n bwriadu mynd at y prosiect. Unwaith y cafodd y cymhorthdal ei ddyfarnu, fe aethon ati a chymryd cyngor gan weithwyr ieuenctid ac asiantaethau ieuenctid gan wneud cysylltiadau a fyddai o ddefnydd nid yn unig ar gyfer rhaglen y penwythnos ond hefyd i'r bobl ifanc yn yr hir-dymor. Bu Uned Cyfle Cyfartal y Cynulliad o gymorth mawr yn hyn o beth.

Roedd digonedd o syniadau a deunydd ac roedd pob un o'r rhai a ofynwyd yn falch iawn o roi eu hamser. Yr anhawster mwyaf fu cysylltu â'r bobl ifanc hynny a fyddai efallai'n dymuno cymryd rhan. Fe gymerodd hyn tua wyth mis i gyd a thri anfoniad post a llawer i alwad ffôn. Nid cael ymateb gan y bobl ifanc oedd y broblem - roedd digon o frwdfrydedd wedi iddyn nhw glywed amdano a byddai llawer o rai eraill wedi hoffi bod yno ond heb fedru mynd am resymau ymarferol. Craidd y broblem oedd nad oedd y fath rwydwaith yn bodoli y gellid dibynnu arni i gysylltu â phobl ifanc a.g. yn y lle cyntaf. Os na fedren ni eu cyrraedd i'w gwahodd i'r digwyddiad yma, pa wybodaeth bwysig a diddorol arall oedd yn mynd ar goll hefyd! Cawsom ein hargyhoeddi gan y profiad yma fod y prosiect hwn yn un angenrheidiol.

Teg yw dweud hefyd fod angen mwy o waith i gael ymatebion o'r tu allan i Gaerdydd a'r De Ddwyrain ond roedden yn awyddus i wneud yn siwr fod  gynulliad cynrychiolaidd ac fe ddalion ni ati gyda chryn lwyddiant, fel y dengys y rhestr cyfranogwyr.

Ar ôl i rywun gysylltu â ni, fe ffonion ni nhw a chael cyfweliad hir gyda nhw i egluro'r hyn yr oedden ni'n ei gynllunio ac i ddarganfod yr hyn yr oedden nhw eisiau a pha bynciau oedd o ddiddordeb iddyn nhw. Fe newidiodd y cynllun a'r rhaglen yn fynych mewn ymateb i'r hyn a glywson. Dewisodd rhai pobl ifanc ar yr adeg yma beidio â mynychu'r penwythnos ond roedden nhw am gadw mewn cysylltiad. Roedden ni'n ceisio siarad â'r person ifanc ei hun ac roedden yn gyndyn i gynnal cyfweliad gyda rhiant neu oedolyn cyfrifol arall.

Diolch i'r cymhorthdal, roedd y penwythnos yn rhad ac am ddim ac roedden ni hefyd wedi gallu rhoi cymorth tuag at gostau teithio. Dyma'r eitem a achosodd fwyaf o anawsterau oherwydd diffyg cynlluniau cludiant a gyrrwyr gwirfoddol mewn rhai ardaloedd. Anfonwyd rhaglen amlinellol i bob cyfranogydd yn gynnar ac un fwy manwl ychydig cyn y digwyddiad, yn adlewyrchu'r newidiadau a ddeilliodd o'r cyfweliadau ffôn.

Crynodeb Gweithredol

1. Rydyn ni am gael yr un llais â phobl hyˆn a phobl â golwg.

Mae hi'n bwysig i ni fod ein bywydau yn ein dwylo ni'n hunain.

2. Mae arnom angen mynediad at wybodaeth o bob math. Dylai pob sefydliad gynllunio sut i gynhyrchu ei ddeunydd mewn fformatau eraill.    

3. Mae yna angen mawr am hyfforddiant ymwybyddiaeth i addysgu'r cyhoedd ac i ddileu syniadau anghywir a stereoteipiau.

Mae hi'n gwneud synnwyr i gychwyn gyda phobl ifanc ac rydyn ni'n credu y dylai hyfforddiant ymwybyddiaeth fod yn rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

4. Mae'r ffordd y mae gwasanaethau'n amrywio o un ardal i'r llall yn peri gofid. Ddylai neb fod ar eu colled oherwydd y man lle maen nhw'n byw.

5. Cludiant yw un o'r materion pwysicaf i ni.

Dylai'r rhai hynny sy'n cynllunio polisïau a gwasanaethau cludiant fod yn ymwybodol o anghenion pobl ifanc ag amhariad gweledol.

6. Mae angen trefnau cynghori a chymorth digonol a dibynadwy ynglyˆn â budd-daliadau lles a gwneud y rhain yn hygyrch i bobl ifanc a.g.

7. Mae yna broblemau o fewn addysg.

Dylen ni wybod mwy ynghylch sut mae gweithwyr cymorth ar gyfer myfyrwyr a.g. yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a'u goruchwylio parthed ansawdd eu gwaith.

Dylai colegau sy'n ymrwymo i dderbyn myfyrwyr a.g. fod wedi paratoi'n drwyadl cyn i'r myfyriwr gyrraedd.

Mae angen archwilio'r ffaith nad oes yna ysgol arbenigol yng Nghymru yn ogystal â'r mater o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobl ag amhariad gweledol.

8. Dylai cyflogwyr fod yn fwy ymwybodol o'r ffeithiau o ran amhariad gweledol a sut i ymaddasu ar gyfer ymgeiswyr a gweithwyr a.g.

9.Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn gallu rhoi gwybodaeth ac hyfforddiant symudedd i bobl ifanc a.g.

10. Rydyn ni am weld sefyllfa lle nad yw pobl ifanc a.g. yn cael eu cau allan o weithgareddau cymdeithasol, chwaraeon a hamdden.

Yr Adroddiad

Cyn dechrau egluro ein barn ni am agweddau neilltuol o'n bywydau, mae yna bwyntiau cyffredinol yr hoffen ni eu nodi.

Annibyniaeth a Rheolaeth

Fel pobl ifanc, rydyn ni am gael llais ac rydyn ni am iddo gael ei glywed. Mae gennym ni farn ynghylch ein problemau fel pobl ag amhariad gweledol ac rydyn ni am i bobl wrando ar y syniadau yma gymaint â rhai pobl sydd heb amhariad gweledol. Felly rydyn ni am lais cyfartal gyda phobl hyˆn a phobl â golwg.

Mae'n bwysig i ni ein bod yn gallu rheoli ein bywydau ein hunain. Dyw hyn ddim yn golygu nad oes angen y gwasanaethau cymorth cywir arnom ni ond rydyn ni am i bobl barchu ein hannibyniaeth. Un enghraifft o hyn yw pan fydd pobl eraill yn hidlo'r wybodaeth a ddaw i ni ac yn penderfynu'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthym ni - hynny yw, dydyn ni ddim yn hoffi bod yr wybodaeth a ddaw i ni'n cael ei sensro fel all ddigwydd yn aml. (Dydyn ni ddim yn hoffi cael ein hanwybyddu chwaith pan fydd yr wybodaeth yn cael ei roi i'n cydymaith!) Rhowch yr wybodaeth yn syth i ni a gadewch i ni wneud y penderfyniadau.

Rydyn ni'n croesawu datblygiadau fel Fforymau Ieuenctid a Chynghorau Ieuenctid ond fydd y rhain ddim o ddefnydd onibai bod pobl ifanc a'u daliadau'n cael eu cymryd o ddifrif. Fel cenhedlaeth, mae gennym ni enw am fod yn ddifater ynghylch gwleidyddiaeth a gwleidyddion. Yn ein trafodaethau, roedden ni'n teimlo efallai mai'r rheswm am hyn yw nad yw pobl yn deall ein problemau ni fel pobl ifanc a phobl a.g. Byddai'r sefyllfa'n well pe bai pobl yn barod i ymchwilio'r pwnc er mwyn siarad â phobl ifanc a gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud hyd yn oed os nad yw hyn yn cydfynd â'u tybiaethau nhw.

Weithiau teimlwn fod gwleidyddion yn rhy barod i gydymffurfio ac yn anfodlon i ddatgan syniadau gwahanol. Os ydyn nhw'n wirioneddol barod i wrando ar lais pobl ifanc yna o bryd i'w gilydd bydd rhaid iddyn nhw dderbyn syniadau anghysurus.

Dylai'r rhai sy'n dylanwadu ar ein bywydau ni wybod beth sydd ei angen arnom a'r hyn rydyn ni eisiau cyn cymryd y camau cywir i wella'r sefyllfa.

Serch hynny, rydyn ni yn cydnabod bod gennyn ni ran i'w chwarae ein hunain. Fel pobl ifanc ag amhariad gweledol, mae'n rhaid i ni fod yn barod i fynegi ein barn ac i achub ar gyfleoedd, i ddatgan ein syniadau a chyflwyno'n hunain heb ddibynnu ar sefydliadau i'w wneud ar ein rhan oherwydd dyna'r ffordd i gael y canlyniadau cywir. Rydyn ni'n cydnabod hefyd y bydd hyn yn golygu llawer o ymdrech a dyfalbarhad.

'Mae pobl sydd mewn grym yn ystyried pobl ag amhariad gweledol yn fwrn'.

Ond mae rhaid i bobl eraill gymryd ein amhariad gweledol a'n heieuenctid i ystyriaeth a'n derbyn fel aelodau llawn o gymdeithas yn cyfranogi ac yn cyfrannu - nid fel defnyddwyr gwasanaethau a chleientiaid yn unig.

Cludiant

Mae rhaid i bobl ifanc symud o gwmpas i gael addysg, gwaith a bywyd cymdeithasol a theithio er mwyn ehangu ein gorwelion. Sut gall pobl ag amhariad gweledol wneud hynny?

Yr ateb yw ei fod yn dibynnu'n helaeth iawn ar y system gludiant. Mae system gludiant wael yn peri i ni fod dan anfantais a gall achosi problemau wrth gael mynediad at addysg, gwaith a bywyd cymdeithasol a hynny'n arwain at unigedd.

Yn aml clywn asiantaethau'n dweud eu bod wedi darparu cyfleusterau, er enghraifft cymorth gan staff mewn gorsafoedd, ond yn ein profiad ni dyw'r cyfleusterau hyn ddim yno.

Mae yna angen mawr bod y rhai sy'n cynllunio polisïau a gwasanaethau cludiant yn ymwybodol o anghenion pobl ifanc a.g. o ran cludiant. Dylen nhw feddwl am y daith o'n safbwynt ni a sut y gellid ei gwneud yn haws - er enghraifft taflenni amser cyfunol, arwyddion ac arosfannau bws sy'n siarad, bysiau sy'n datgan pen eu taith, gorsafoedd a bysiau'n agosach at ei gilydd, ffyrdd mwy diogel a hygyrch.

Budd-daliadau Lles

Does dim angen dweud bod arian yn bwysig i bobl ifanc. Ac eto cawn ein gadael ar ein pennau'n hunain i wneud ceisiadau am fudd-daliadau y mae  hawl iddynt.

Mae angen trefnau cynghori a chymorth digonol a dibynadwy a'u gwneud yn hysbys ac yn hygyrch i bobl ifanc.

Yn ein profiad ni, dyw ymgynghorwyr budd-daliadau cyffredinol ddim yn deall amhariad gweledol na sut mae cymhwyster i dderbyn budd-daliadau a rheoliadau'n berthnasol i amhariad gweledol. Y Lwfans Byw i'r Anabl yw'r budd-dal pwysicaf oherwydd ei ddiben yw talu costau anabledd. Fe hoffen ni weld ymgynghorwyr budd-daliadau a gweithwyr yr Asiantaeth Budd-daliadau'n derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth a fyddai'n cynnwys dehongliad o reoliadau budd-daliadau yn nhermau amhariad gweledol.

Mynediad at Wybodaeth

Mae angen i ni gael mynediad at wybodaeth er dibenion difrifol fel addysg a gwaith ond hefyd ar gyfer materion o ddiddordeb fel materion cyfoes a gwleidyddiaeth ac yn arbennig er mwyn medru cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol. Dyw'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ddim fel petai wedi darbwyllo sefydliadau a phobl y dylen nhw gynhyrchu eu hysbysion, taflenni, papurau ac ati mewn fformatau eraill.

Fel pawb arall rydyn ni am ddarllen deunydd diweddar a llyfrau cyfoes ond rydyn ni am eu cael ar yr un pryd â'n cyfeillion a'n cyfoedion fel y gallwn drafod yr un pethau ar yr un pryd. Mae yna anferth o angen mynd i'r afael â'r mater o sut i gynhyrchu trawsgrifiadau'n gyflym ac yn rhad.

'Pan af i fwyty gyda'm ci tywys, caf fwydlen yn aml mewn Braille ac rwy'n esgus ei ddarllen er mwyn bod yn gwrtais!'

Un peth sy'n ein gwylltio yw bod y cyhoedd yn rhagdybio oherwydd bod  amhariad gweledol (hy.y. ein bod yn ddall!) fod angen braille arnom. Yr hyn sydd ei angen arnom yw medru dewis cyfrwng sy'n siwtio pob un yn unigol.

Er hynny mae rhai ohonom yn defnyddio braille a'n profiad yw bod prinder darpariaeth braille Cymraeg.

Mae nifer o asiantaethau'n cynhyrchu tapiau sain ac mae rhai ohonynt o safon uchel ond dyw rhai ddim. Os yw rhywun yn cynhyrchu tapiau sain, mae rhaid bod ganddyn nhw ddarllenwyr da. Dydych chi ddim yn disgwyl cael dogfen wedi'i hargraffu'n wael a disgwyliwn ni'r un safon yng nghynhyrchiad y tapiau.

Addysg

Credwn nad yw hi'n iawn nad oes ysgol arbenigol yng Nghymru. Mae rhai ohonon ni sydd ag angen neu sydd well ganddyn nhw ysgolion arbenigol yn gorfod teithio'n bell a chael ein gwahanu â'n teuluoedd a'n cyfeillion.

Cyn belled ag y gwyddom, hefyd, nid oes yna addysg arbenigol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ac efallai bod angen edrych ar hyn hefyd. Mae hyn yn rhoi'r rhai ohonon ni sy'n Gymry Cymraeg dan anfantais.

O ran addysg prif ffrwd, gwyddom fod y safon yn amrywio'n fawr o un ardal i'r llall. Fe hoffen ni weld hyn yn cael ei archwilio a safonau'n cael eu datblygu. Dylai hyn gynnwys darpariaeth addysg brif-ffrwd Gymraeg ei chyfrwng hefyd.

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni sydd wedi treulio cyfnod mewn ysgolion prif-ffrwd wedi cael gweithwyr cymorth. Mae hyn yn rhan bwysig iawn o'n haddysg. Yn ein trafodaethau rydyn ni wedi canfod bod yna lawer ohonon ni wedi cael yr un  problemau. Ein pryder mwyaf yw y dylai gweithwyr cymorth fod yn darparu cymorth nid disgyblaeth. Nid ein hathrawon nac ein rhieni mohonyn nhw. Mae agweddau rhai gweithwyr weithiau yn amhriodol er eu bod yn dda eu bwriad.

Yng nghyfnodau hwyrach addysg, lle mae'r gweithwyr yn gwybod rhywfaint am y testun dan sylw, gall y cymorth fod yn fwy defnyddiol a gellid cymryd hyn i ystyriaeth wrth hyfforddi gweithwyr cymorth.

Daethom i'r casgliad yr hoffen ni wybod sut mae gweithwyr cymorth yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a'u goruchwylio o ran ansawdd eu gwaith. Mwy na thebyg y gallen ni roi cyngor ar ôl cael y ffeithiau.

Y gwˆyn yn aml hefyd yw ein bod yn derbyn gwerslyfrau a deunydd cwrs ar ôl pawb arall. Mae hyn yn ein rhoi ni dan anfantais ac hyd yn oed mewn perygl o fethu. Mae'n rhaid i ysgolion a cholegau fynd i'r afael â'u trefnau ar gyfer cynhyrchu fformatau eraill.

Mae'r problemau sy'n codi mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach o'r math y gellid eu datrys neu hyd yn oed eu hosgoi pe bai athrawon a darlithwyr yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ran amhariad gweledol. Rydyn ni'n argymell y dylai unrhyw sefydliad sy'n bwriadu derbyn myfyrwyr ag amhariadau gweledol wneud hyn yn rhan orfodol o'r ddarpariaeth.

Dylai colegau sy'n ymrwymo i dderbyn myfyrwyr a.g. wneud paratoadau o'r fath cyn i'r myfyriwr gyrraedd.

Gwaith

Mae rhai o'n grwˆp ni'n ddi-waith ac mae rhai'n teimlo mai eu amhariad gweledol sy'n troi cyflogwyr i ffwrdd. Mae angen gwneud cyflogwyr yn ymwybodol o'r ffaith ei bod yn bosibl ymaddasu ar gyfer amhariad gweledol yn y gwaith ac ein bod yn gallu gwneud gwaith cystal ag unrhywun arall mewn sefyllfa sy'n siwtio ein gallu.

Mae cyfweliadau gyda chyflogwyr yn ein cythruddo'n rheolaidd. Dyn nhw ddim fel pe baen nhw'n gwybod sut i roi cyfweliad i berson a.g. Er enghraifft byddan nhw'n aml yn gofyn sut y dewch chi i ben â hi fel person a.g. yn hytrach na'n sôn am y gwaith, eich gallu chi i wneud y gwaith a'ch agwedd chi tuag at y gwaith fel y bydden nhw gyda pherson â golwg.

Mae ar gyflogwyr angen hyfforddiant ymwybyddiaeth i ddelio â'u hanwybyddiaeth o ran amhariad gweledol.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Pan cewch chi eich cofrestru, chewch chi ddim gwybodaeth. Chewch chi mo'ch anfon i unrhyw gyfeiriad'

Ychydig o gymorth a gafwyd gan lawer ohonon ni pan cawson ni'n cofrestru. Yn bwysicach na dim chawson ni ddim cynnig o hyfforddiant symudedd a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

Mynediad i Chwaraeon a Hamdden

Dyw ein bywydau ni ddim yn llawn o bethau difrifol: fel pawb arall rydyn ninnau'n mwynhau cael ychydig o hwyl hefyd.

Os na chawn ni'r wybodaeth am ddigwyddiadau a chyfleusterau, fedrwn ni ddim cymryd rhan. Felly rydyn ni'n credu y dylai darparwyr chwaraeon, hamdden ac adloniant wneud ymdrech i roi'r wybodaeth ar gael ar wedd hygyrch lle gallwn ni fynd ato.

'Peth ofnadwy yw cael eich cau allan o weithgareddau cymdeithasol gyda'ch cydweithwyr yn y gwaith neu'r coleg.'

'Gwahoddwch fi allan ac fe yfa i chi dan y bwrdd.'

Hybu Iechyd

Mae darpariaeth iechyd a deunydd hybu iechyd yn rhan bwysig o'r broblem mynediad at wybodaeth. Rydyn ni fel pobl ifanc yn teithio o gwmpas ac yn cymysgu gyda llawer o wahanol bobl mewn amgylchiadau amrywiol. Dylai'r wybodaeth yma fod ar gael mewn fformatau eraill.

Agweddau'r cyhoedd tuag at amhariad gweledol

'Allwch chi ddim bod yn ddall - r'ych chi'n rhy ifanc!'

'Liciech chi gadair olwyn?'

Fyddai llawer o'r problemau'n ymwneud â darparu ar gyfer pobl a.g. ddim yn bod pe bai'r cyhoedd yn fwy hysbys ynghylch amhariad gweledol. Mae yna gymaint o gamsyniadau cyffredin fel ein bod ni i gyd yn darllen braille a bod 'dall' yn golygu na fedrwn ni weld dim o gwbl ac mai dim ond hen bobl sydd ag amhariad gweledol. Down ar draws syniadau ystrydebol o sut berson yw rhywun ag amhariad gweledol wrth gwrdd â phobl bob dydd. Mae hyn yn effeithio ar y ffordd y'n gwelir ni ac mae hyn yn ei dro yn effeithio ar ein perthynas ni â phobl eraill.

'Does gennyn ni ddim problem â'n hunain, gallwn ni ei dderbyn felly pam na all pawb arall?'

'Disgwylir i ni weithiau guddio ein hanabledd gan fod hynny'n ein gwneud yn fwy derbyniol. Teimlwn ni y dylen ni gael ein derbyn fel yr ydyn ni.'

Yn ein barn ni mae yna angen mawr am hyfforddiant ymwybyddiaeth er mwyn addysgu'r cyhoedd. Gwyddon y bydd hyn yn cymryd amser hir ond mae rhaid mynd i'r afael â'r broblem mewn dull systematig.

Gwyddon y gallwn ni wneud hyn i raddau ein hunain mewn ffordd uniongyrchol. Er enghraifft perswadiodd un o'r grwˆp ei gwmni i gynhyrchu eu catalog mewn braille. Aeth un arall o'r criw'n syth at ei gyngor sir a gofyn am ei lythyron a'i bapurau mewn ffont o faint o'i ddewis e. Rydyn ni am ddarbwyllo mwy o bobl ifanc i wneud y math hyn o beth.

Ac os ydyn ni am newid agwedd cymdeithas, mae'n haws gwneud pethau drwy godi ymwybyddiaeth pobl ifanc. Felly fe hoffen ni weld hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o a.g. yn rhan rheolaidd o'r cwriwcwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Gwahaniaethau rhanbarthol

Wrth siarad â'n gilydd daethon i sylweddoli fod yna wahaniaethau mawr rhwng y gwasanaethau mewn gwhanol ardaloedd. Fe hoffen ni weld pawb ym mhob ardal yn derbyn yr un gwasanaethau o'r safon uchaf.

'Dyma'r tro cyntaf i fi gael fy ngwahodd i unrhywbeth i'r gogledd o Aberhonddu'

Credwn hefyd fod yna ormod o ganoli yn y De Ddwyrain a bod pobl yn y Gogledd a'r Gorllewin yn cael eu hesgeuluso. Mae hyn yn golygu bod pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn colli cyfleoedd. Fe hoffen ni weld Cymru gyfan yn cael yr un sylw a'r cyllid yn cael ei rannu'n fwy teg ar draws y wlad.

Y Dyfodol

Ers i'r penwythnos preswyl ddod i ben, anfonwyd datganiadau i'r wasg i restr faith o gysylltiadau yn y cyfryngau. Cafodd chwech aelod o'r grwˆp eu holi gan bapurau lleol ac fe dyfodd dau o'r cyfweliadau'n erthyglau gyda lluniau. Cafodd dau eu holi ar radio lleol. Ond yw hi'n beth da ein bod wedi cael gweithdy ar ddelio â'r wasg a'r cyfryngau yn ystod y penwythnos!

Mae un aelod o'r grwˆp wedi cael ei gwahodd gan ei phapur i deithio'r ardal leol i asesu hygyrchedd. Cafodd un arall wahoddiad gan ei Chanolfan Gynghori leol i'w cynghori nhw ar sut i wneud eu gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl ag a.g.

Mae dau ohonon ni wedi mynychu cyfarfodydd Pwyllgorau Rhanbarthol y Cynulliad, un yn y Gogledd a'r llall yn y De Ddwyrain. Pwnc y cyfarfodydd oedd Materion Ieuenctid a'r papur "Ymestyn Hawliau". Medrodd ein cynrychiolwyr siarad yn gyhoeddus yno ynghylch y materion sy'n bwysig i ni.

Rydyn ni wedi gofyn i CCD ymchwilio i'r mater o weithwyr cymorth ar ein rhan fel y gallwn ei drafod yn nes ymlaen a gweld a yw hi'n bosibl datrys y problemau yr ydyn ni wedi'u profi.

Mae'r wefan a gynlluniwyd yn cael ei sefydlu yn barod dan yr enw 'www.isite-now.org.uk' a awgrymwyd gan un o'r grwˆp. Bydd hwn yn cynnwys gwybodaeth sydd o ddiddordeb i ni yn ogystal a stafell sgwrsio a chyfeiriadau a chysylltiadau i safleoedd perthnasol eraill. Dylai hyn fod o ddefnydd o safbwynt ein nod arall sef ehangu ein rhestr gysylltiadau ac adeiladu ein rhwydwaith.

Bydd cynifer ohonon ni a fedr yn cwrdd yng Nghaerdydd ar Fawrth 21ain i gyflwyno'r adroddiad hwn i Bwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol ac i drafod syniadau ynghlyˆn â'r hyn yr ydyn ni am ei wneud nesaf.

Rydyn ni am glywed oddi wrth unrhyw berson a.g. ifanc a hoffai fod yn rhan o'r rhwydwaith ac rydyn ni'n eich argymell i gael cip ar ein gwefan yn rheolaidd.

Rhaglen y Penwythnos

Dydd Gwener, 15ed Rhagfyr

Adnabod y Materion

7.00 y.h.
Cofrestru a Chroesawu
Vanessa Webb, Cyfarwyddwr CCD

7.15 y.h.
Cyflwyniad ac amserlen
Vanessa Webb, Cyfarwyddwr CCD

7.30 y.h.
Pryd

8.30 y.h.
Siaradwr: David Hurst, Anturiwr Dall
'Golwg bersonol ar gyflawni gydag amhariad gweledol'

9.15 y.h.
Gwaith Grwˆp


Dydd Sadwrn, 16eg Rhagfyr

Gwneud i Bethau Ddigwydd

8.00 y.b.
Brecwast

9.30 y.b.
Siaradwr: Alan Whittick, Cyd-gyfarwyddwr Actio, Adran y Gymuned, Cyngor Sir Powys
'Pobl ifanc yn gwneud i bethau ddigwydd - Menter Dan Sylw'

10.15 y.b.
Gwaith Grwˆp

11.15 y.b.
Cyflwyniadau grwˆp a thrafodaeth

12.00 h.d.
Cinio

1.00 y.h.
Siaradwr: Tyrone O'Sullivan, O.B.E., Cadeirydd Glofa Tower
'Gwneud i bethau ddigwydd'

2.00-4.30y.h.
Gweithdai
Cyfathrebu, y cyfryngau a chyhoeddusrwydd

Grwˆp 1 Geraint Owen, BBC Cymru
'Y Wasg a'r Cyfryngau'

Grwˆp 2 Ceri Jackson & Clare Gabriel, BBC News Online
'Cyfryngau Newydd'

2.00-3.00 y.h.
Sesiwn I

3.00 y.h.
Toriad am Goffi

3.30-4.30 y.h.
Sesiwn II

6.00 y.h.
Gweithgaredd gyda'r Nos: Bowlio Degpin

Swper yn AMF Superbowl


Dydd Sul, 17eg Rhagfyr

Cael Llais

8.30 y.b.
Brecwast

10.00 y.b. 
Ieuenctid Mewn Gwleidyddiaeth

Sector Gwirfoddol
Vanessa Webb, Cyfarwyddwr CCD
Cynghorau Ieuenctid
Elen Jones, Asiantaeth Ieuenctid Cymru, 'Llais Ifanc'
Senedd yr Ifanc D.U.
Chris Randel, Cynrychiolydd

'Profiad Personol'
Kirsty Williams, A.C., Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11.30 y.b.
Toriad am Goffi

11.45 y.b.
Theatr Fforwm Cymru: Gweithdy Drama

1.00 y.h.
Cinio

2.00 y.h.
Trafodaeth mewn Grwpiau: Syniadau am weithredu pendant

4.00 y.h.
Diwedd

Negeseuon Cefnogol

David Hurst, Anturiwr Dall

"Roedd hi'n bleser o'r mwyaf i mi i gael y cyfle i siarad gyda chi i gyd ac rwy'n teimlo'n sicr yr ewch chi i gyd ymlaen i gyflawni pethau mawr fel y gwnes i. Rwy'n credu hefyd mai dim ond cam cyntaf oedd y penwythnos yma tuag at annog pobl ifanc ag amhariad gweledol i gyflawni eu huchelgeisiau."

Kirsty Williams, A.C., Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynuliad Cenedlaethol Cymru

"Hoffwn longyfarch Golwg Ifanc am ei waith penigamp. Gwnaeth y bobl ifanc dall a rhannol ddall y cwrddais i â nhw argraff gref arnaf, a synnais pa mor wybodus yr oeddent ynghylch materion gwleidyddol a chymdeithasol a chystal oedd eu sgiliau dadlau a dyfnder eu gwybodaeth.

"Rwy'n cefnogi Golwg Ifanc i'r carn a dymunaf yn dda iddo yn y dyfodol. Dyma fenter gwerth chweil sy'n cynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc a.g. gan ennyn hyder yn eu galluoedd a'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig i gymdeithas."

Alan Whittick, Cyd-gyfarwyddwr Actio, Adran y Gymuned, Cyngor Sir Powys

"Dymunaf bob llwyddiant i Golwg Ifanc ac roeddwn yn falch o fedru rhannu profiadau Gwasanaeth Ieuenctid Powys wrth gynnwys pobl ifanc yn y broses benderfynu. Wedi cwrdd â'r grwˆp, rwyf yn hyderus y byddant yn mynegi eu barn yn effeithiol ac y bydd y Cynulliad yn gwrando arnynt ac yn ymateb yn gadarnhaol."

Gill Dowsett, Cyd-gyfarwyddwr, Theatr Fforwm Cymru

"Yn yr wyth mlynedd ers sefydlu Theatr Fforwm Cymru, ond yn anfynych iawn ydw i wedi mwynhau hwyluso darn o theatr fforwm cymaint ag y gwnes y dydd Sul hwnnw. Roedd y gynulleidfa (gwylwyr) yn chwim i ymateb gan gynnig datrysiadau cyffrous, ystyriol ac awdurdodedig i'r senarios "problem" a gyflwynwyd. Bydd y gwyleidd-dra, y tosturi, yr hwyliau da a'r ysbryd o haelioni y bum i'n dyst iddo'n aros gennyf. Fedraf i, am un, ddim aros nes cael cyfle i gydweithio eto."

Elen Jones, Asiantaeth Ieuenctid Cymru

"Mae Golwg Ifanc yn gyfle hanfodol i bobl ifanc ag amhariad gweledol ddod at ei gilydd. Roeddwn i'n falch cael fy ngwahodd i gyfarfod â'r grwˆp ar y penwythnos preswyl ym mis Rhagfyr. Mwynheuais yn enwedig y cyflwyniad drama. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r grwˆp i wneud popeth sy'n bosibl i sicrhau fod barn pobl ifanc ag amhariad gweledol yn cael ei glywed gan benderfynwyr Cymru."